GŴYL pencerdd gwalia

Masthead Image

Mae'r Trefnwyr

Coleg Telyn Cymru

Coleg Telyn Cymru sydd yn gyfrifol am holl drefniadau’r Ŵyl. Sefydlwyd Coleg Telyn Cymru (rhif elusen 101978) gan Elinor Bennett, Meinir Heulyn a Gillian Green ym 1988, gyda’r bwriad o hybu celfyddyd y delyn yng Nghymru. Trefnwyd cyrsiau, gweithgareddau, cyngherddau a darlithiau ar raddfa eang, yng Ngregynog, Aberystwyth, Llangrannog, a chanolfannau diwylliannol eraill.

Pwyllgor Gweithredol yr Ŵyl a’r Gystadleuaeth

 
Elinor BennettElinor Bennett : Cadeirydd. Graddiodd yn y Gyfraith cyn mynd i’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, lle bu’n ddisgybl i Osian Ellis, a chanu’r delyn gyda phrif gerddorfeydd Prydain. Wedi dychwelyd i Gymru, parhaodd ei gyrfa rhyngwladol fel telynores gan droi ei llaw at ddysgu, cerddoriaeth siambr, recordio, a beirniadu’n genedlaethol a rhyng-genedlaethol. Cyhoeddwyd ei hunan-gofiant, ‘Tannau Tynion’ yn 2011.
Caryl ThomasCaryl Thomas: Ysgrifennydd. Graddiodd Caryl o Goleg Cerdd a Drama Cymru, cyn mynd i Efrog Newydd, lle’r ennillodd radd M.A. . Perfformiodd fel unawdydd disglair  yn rhyngwladol  ac ymddangosodd yn rheolaidd  ar y radio a theledu. Yn 2011 fe’i hapwyntiwyd i swydd Pennaeth Astudiaethau Telyn ei hen goleg. Ar wahan i’w disgyblion coleg, mae ganddi hefyd lu o ddisgyblion ifainc disglair, a hi oedd Llywydd Gŵyl Delynau Ewrob (Caerdydd) yn 2007.
Meinir HeulynMeinir Heulyn: Trysorydd. Graddiodd Meinir o Brifysgol Cymru ac o Gonserfatorio Genoa cyn ymuno â Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru a dod yn Bennaeth Adran Delyn Coleg Cerdd a Drama Cymru. Ar y cŷd, gyda’i gŵr, Brian Raby, sefydlodd Gwmni Cyhoeddi dylanwadol Alaw, ac mae ei threfniannau a’i chyfansoddiadau hi ei hun ar gyfer y delyn i’w clywed ym mhedwar ban y byd.
Gillian GreenGillian Green. Graddiodd Gillian Green o Adran Gerdd Prifysgol Caerdydd, ac wedi dilyn cwrs ôl-radd ym Mhrifysgol Llundain ymunodd â chynllun Live Music Now a sefydlodd Yehudi Menuhin. Erbyn hyn, yn ogystal a’i gwaith fel Cyfarwyddwr LMN yng Nghymru, hi yw Cyfarwyddwr Clyweliadau Cenedlaethol Prydeinig y mudiad, ac mae’n feirniad tra profiadol. Bu’n aelod o sawl mudiad  diwylliannol dylanwadol.
Ann GriffithsAnn Griffiths: Wedi graddio yn y Gymraeg, ennillodd ysgoloriaeth i astudio gyda’r athro byd-enwog, Pierre Jamet, ym Mharis, lle cipiodd wobr gyntaf (Premier Prix) y Conservatoire. Derbyniodd radd M.A am ei hastudiaethau i hanes y delyn, cyn treulio cryn amser yn dysgu’r delyn yn y Brifysgol, yr Academi Frenhinol yn Llundain, a’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Mae’n hanesydd y delyn, a chanddi 46 o erthyglau yng Ngeiriadur Cerddorol Grove