Beirniad – y ddau gylch rhagbrofol
Katherine Thomas
Beirniad y cylch terfynol
Catrin Finch a Katherine Thomas
|
Katherine
Thomas : Mae Katherine Thomas yn delynores sydd wedi
perfformio gydag artistiaid fel Bryn Terfel, Rolando Villazon,
Katherine Jenkins a’r Manic Street Preachers. Mae wedi teithio’n
helaeth fel unawdydd a gyda cherddorfeydd fel Cerddorfa Opera
Cenedlaethol Cymru, a hi yw prif delynores gynorthwyol y gerddorfa
honno. Graddiodd Katherine o Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall
(ble astudiodd gyda David Watkins). Ynghyd a’i gwaith cerddorfaol,
mae hefyd yn dysgu yn adran iau Coleg Cerdd a Drama Brenhinol
Cymru a Choleg Crist, Aberhonddu.
|
Catrin
Finch : Mae Catrin Finch yn cael ei hadnabod fel Brenhines
y Delyn ac mae hi wedi swyno cynulleidfaoedd ar draws y byd ac
wedi perfformio gyda cherddorfeydd mwya’r byd. Fe ddechreuodd
ganu’r delyn pan yn 5 oed a daeth llwyddiant mawr i’w rhan pan
enillodd gystadleuaeth ryngwladol Lilli Laskine yn Ffrainc yn
1999. Mae Catrin yn gyn-delynores frenhinol i Dywysog Cymru.
Ym mis Tachwedd 2012 cyrhaeddodd CD newydd Catrin rif un yn y
siartiau clasurol yn dilyn llwyddiant tebyg rai blynyddoedd yn
ôl gyda recordiad Amrywiadau Goldberg Bach yn cyrraedd y brig.
Fel un sy’n awyddus iawn i wthio ffiniau’r Delyn, mae Catrin
yn ymroi i hybu’r delyn a cherddoriaeth glasurol i gynulleidfa
mwy eang a newydd.
Web site www.catrinfinch.com
|