Gŵyl Pencerdd Gwalia 2013
i gofio canmlwyddiant
JOHN THOMAS 1826-1913
ac i ddathlu a gwerthfawrogi
ei etifeddiaeth, mewn
Gŵyl a Chystadleuaeth
ym mis Ebrill 2013
Ganwyd John
Thomas, Pencerdd Gwalia, ym Mhenybont-ar-Ogwr, Ddydd Gŵyl
Ddewi, y cyntaf o Fawrth 1826, yn fab i John a Catherine Thomas.
Teiliwr oedd ei dad, ac yn gerddor medrus yn ei amser hamdden.
Daeth ei fab hynaf yn delynor wrth ei alwedigaeth, yn Bencerdd
Gwalia, ac yn delynor i'w Mawrhydi, y Frenhines Victoria, ac
i’w mab, Edward VI. Bu John Thomas farw yn Llundain ar y 19eg
o Fawrth 1913.
Gan mlynedd yn ddiweddarach, bydd Coleg
Telyn Cymru’n cynnal “Gwyl Pencerdd Gwalia” gyda
chystadleuthau a chyngerdd, i ddathlu, amlygu a gwerthfawrogi ei
gyfraniad amhrisiadwy i ystorfa cerddoriaeth y delyn ac i amlygu
ei etifeddiaeth.
CYSTADLEUTHAU
Ebrill 13eg 2013 - Cylch Terfynol ym Mhenybont-ar-Ogw
Cystadleuaeth Iau,
o dan 17 oed
1. Mared Emyr Pugh-Evans
2. Molly-Rowan Sharples
3. Cassandra Tomella
Y Gystadleuaeth
Hŷn (O dan 25 ond heb derfyn oedran is)
1. Llywelyn Ifan Jones
2. Elfair Grug Dyer
3. Molly-Rowan Sharples
|
 |
Mae Coleg Telyn Cymru'n ddiolchgar
iawn am gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru tuag at Gyngerdd Gwyl
Pencerdd Gwalia |