| CANLYNIADAU | |||
| Iau | Hŷn | ||
| 1. Mared Emyr Pugh-Evans 2. Molly-Rowan Sharples 3. Cassandra Tomella | 1. Llywelyn Ifan Jones 2. Elfair Grug Dyer 3. Molly-Rowan Sharples | ||
| Gŵyl Pencerdd Gwalia Festival -
                  CYLCH TERFYNOL 13 Ebrill 2013: Theatr Sony, Coleg Penybont | |||
| Iau 10:30am - 12:30pm | Hŷn 1:00pm - 3:00pm | ||
| Competitor  Molly-Rowan Sharples | Performing Torriad y Dydd 
 | Competitor  Molly-Rowan Sharples | Performing Torriad y Dydd | 
Y Gystadleuaeth Hŷn (O dan 25 ond heb derfyn oedran is)
Darnau Prawf
        a) Unrhyw drefniant o Alaw Gymreig gan John Thomas,
        sydd yn gynwysedig yn y Welsh Melodies (Ashdown, Adlais neu gyhoeddwr
        arall). 
        [Rhestr o'r 24 Alaw i'w cael
      ar gais].
b) Un cyfansoddiad gwreiddiol gan John Thomas
        Er enghraifft
        :  Le Soir, Rêverie, Aeolian Sounds, Echoes of a Waterfall, The Spinning
        Wheel, Staccato Movement, Rhapsody, un o The Seasons, un o’r Romances,
        unrhyw ddarn allan o’r Dewis Dethol, a.y.y.b.      
Anogir cystadleuwyr i'w canu ar y côf, ac i ystyried dewis alawon llai adnabyddus lle bo modd.
Gwobrau:| Y Wobr Gyntaf | £1,000 | Telynau Salvi Harps | 
| Yr Ail Wobr | £500 | Sain | 
| Y Drydedd Wobr | £250 | Adlais | 
Oedran:
        Rhaid i ymgeiswyr fod o dan yr oedran penodedig ar Mawrth 1af, 2013.
Dyddiad Cau:
        Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau i’r ddwy gystadleuaeth: Mawrth
        1af 2013. 
Ffi Mynediad:
        Tâl ymgeisio am bob cystadleuaeth: £20
Gall telynorion ymgeisio yn y ddwy gystadleuaeth os dymunir.
Rhagbrofion:
Cynhelir rhagbrofion mewn dau leoliad : gall cystadleuwyr ddewis y lleoliad mwyaf addas.
23 Mawrth 2013: fel rhan o Wyl Telynau Morgannwg yng Nghanolfan Soar,
        Methyr Tydfil.  Beirniad Katherine Thomas
        03 Ebrill 2013: fel rhan o Wyl Delynau Caernarfon, yn Galeri, Caernarfon.
        Beirniad Katherine Thomas
Gwneir pob ymdrech i ddarparu telynau addas ar gyfer y sawl na fydd yn gallu dod â'u telynau eu hunain. Ceisiadau i’w gwneud ymlaen llaw.
Prawf Terfynol a Chyngerdd
13 Ebrill 2013: Cylch terfynol y ddwy gystadleuaeth yn Theatr
          Sony,
        Coleg  Penybont, Penybont-ar-Ogwr, Bro Morgannwg, CF31 3DF. 
        Beirniad y cylch terfynol: Catrin Finch a  Katherine
      Thomas 
      
View Larger Map
Cynhelir Cyngerdd yr Wyl yng Nghapel y Tabernacl, Penybont gyda’r enillwyr ac artistiaid eraill
