GŴYL pencerdd gwalia

Masthead Image

John Thomas
Pencerdd Gwalia
1826 -1913

Photograph of John Thomas“Dyna sut i ganu'r delyn....fe’m swynwyd, fe'm cyfareddwyd, fe'm magneteiddiwyd”. Y sawl a haeddasai eiriau clodfawr Hector Berlioz oedd y telynor John Thomas (Pencerdd Gwalia) a anwyd ym Mhenybont-ar Ogwr. Teiliwr wrth ei alwedigaeth oedd ei dad, ac fe anwyd ei blentyn cyntaf ar ddiwrnod arwyddocáol, sef Dydd Gŵyl Ddewi, Mawrth y cyntaf, 1826. 45 mlynedd yn ddiweddarach, fis Mawrth 1871, daeth John Thomas yn Delynor i'w Mawrhydi'r Frenhines Fictoria.

Llencyn deuddeng mlwydd oed oedd ef pan lansiwyd ei yrfa, a hynny pan ennillodd y brif wobr yn yr Eisteddfod a drefnwyd gan Gymreigyddion Y Fenni, ac a gynhaliwyd yno fis Hydref 1838. Y delyn deires draddodiadol oedd offeryn John Thomas, ac o’i glywed, fe fu i’r Arglwydd Tredegar ei wahodd i ganu ei delyn yn ei dŷ ef yn Llundain. Yno fe’i clywyd gan Ada, Arglwyddes Lovelace, merch y bardd Byron, ac fe gynigiodd hithau ei noddi a thalu tair rhan o bedair o’i ffioedd yn yr Academi Brenhinol, gan berswadio’r teulu cyfan i symud i fyw yn Llundain.

John Balsir Chatterton oedd athro telyn John Thomas yn yr Academi, lle’r arhosodd yn ddisgybl am chwe mlynedd, o 1840 tan 1846. Bu’n rhaid iddo, nid yn unig loywi ei Saesneg, ond rhoi’r gorau i’r delyn deires gyda’i repertoire a’i thechnegau traddodiadol, ac ymgymryd ag astudio’r delyn unres gyda’i saith bedal, ei symudiad dwbl, ei thechneg tra gwahanol a’r math o repertoire rhamantaidd newydd a gyfansoddwyd gan y telynor Parish Alvars, a ddaeth yn eilun iddo.

Ym 1851, arwyddodd gytundeb gyda’r Cwmni Opera Eidalaidd. O Fawrth i Orffenaf rhedai tymor y cwmni, ac felly, gydol y gaeaf, roedd John Thomas yn rhydd i deithio a chynnal cyngherddau ar draws Ewrob. Dechreuodd ar ei deithiau cyfandirol y mis Hydref canlynol, gan ddilyn yng nghamre ei eilun, Parish Alvars, a chyrraedd Fienna.

Er gwaethaf ei enwogrwydd rhyng-genedlaethol, roedd John Thomas yn hynod falch o’r Gymreictod a’i etifeddiaeth gerddorol Gymreig, ac fe fyddai ei gyngherddau bob amser yn cynnwys, nid yn unig ei hoff weithiau gan Parish Alvars, ond hefyd ei drefniannau o alawon Cymreig – er y byddent, ambell waith, yn cuddio dan enwau anghyfarwydd mewn ieithoedd estron, megis Kriegsmarsch, Abschied des Troubadour a Die Glocken von Aberdovey (fan hynny o leiaf, mae yna gliw i enw’r alaw Gymreig!).

Photograph of John ThomasDaeth â 24 o’r trefniannau hyn at ei gilydd mewn dau gasgliad o’r enw Welsh Melodies, pob un ohonynt yn gyflwynedig i un o’i ddisgyblion aristocrataidd. Eleni, fe’u gosodir fel darnau prawf mewn dwy gystadleuaeth a gynhelir dan faner Gŵyl Pencerdd Gwalia, ac a gynhelir ym Mhenybont-ar-Ogwr, man ei eni, ar y 14ydd o Ebrill 2013. Am 7.30 yr un noson cynhelir cyngerdd yng nghapel Y Tabernacl i gofio canmlwyddiant ei farw ac i anrhydeddu ei gof ac etifeddiaeth ei fywyd a’i waith.

Mewn Eisteddfod fawreddog a gynhaliwyd yng Nghaer ym 1861 y cafodd ei urddo a derbyn yr enw Pencerdd Gwalia – enw gorseddol y teimlai’n anrhydedd mawr o’i dderbyn, ac un yr oedd yn hynod falch ohono. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, wedi marwolaeth Chatterton, ei gyn-athro fis Mawrth 1871, daeth John Thomas yn Delynor i’w Mawrhydi’r Frenhines Fictoria yn ei le. Dyna paham y mae’n arbennig briodol mai’r ddwy delynores frenhinol Catrin Finch (2000-2004) a Hannah Stone (2011- ) sydd yn cynnal y datganiad hwn ar noson Sant Folant.

Mae eu cyngerdd yn cynnwys tair o ddeuawdau John Thomas i ddwy delyn, ac y mae dwy ohonynt, sef ei drefniannau o themáu allan o Carmen Bizet (1885) ac o Serenád Schubert (1900) yn hynod addas i gyngerdd o gerddoriaeth ramantus ar gyfer noson Sant Folant. Cyn yr egwyl, clywir ‘clasur’ mawr John Thomas i’r delyn, sef y ddeuawd enwog, Cambria.

Bythefnos i heddiw, sef ar y 28ain o Chwefror 2013, fe fyddwn yn dathlu 150 mlwyddiant ei berfformiad cyntaf. Cynhaliwyd hwnnw ar ‘Noswyl Gŵyl Ddewi’, sef y 28ain o Chwefror 1863, a’r ddau berfformiwr bryd hynny hefyd, fel heno, yn delynorion brenhinol, sef J B Chatterton (deiliad y swydd), a John Thomas, y bachgen o Benybont oedd i’w ddilyn fel Telynor i’w Mawrhydi.

©2013 Ann Griffiths
www.adlaismusicpublishers.co.uk